Skip to content

Y llyfrau

Dysgwch fwy am deitlau Darllen yn Well drwy glicio ar y rhestrau llyfrau isod. Mae taflenni sy’n cynnwys y rhestr lyfrau a deunydd hyrwyddo arall ar gael o’n banc adnoddau.

Os ydych am gael gafael ar y llyfrau hyn ar ddyfais ddigidol, gallwch lawrlwytho e-lyfrau drwy wasanaeth e-fenthyg eich llyfrgell. Ewch i wefan eich llyfrgell leol i gael gwybod sut i ymuno â’r llyfrgell a chael gafael ar lyfrau’n electronig.

Rhestrau llyfrau Darllen yn Well

Mae Darllen yn Well yn eich helpu i ddeall a rheoli eich iechyd a’ch llesiant gan ddefnyddio deunydd darllen cynorthwyol.

Caiff y llyfrau eu dewis gan arbenigwyr iechyd a phobl sy’n byw gyda’r cyflyrau sy’n cael eu trafod. Gallai gweithiwr iechyd proffesiynol argymell teitl i bobl, neu gallent ymweld â’u llyfrgell leol a dewis llyfr dros eu hunain. Mae teitlau Darllen yn Well ar gael am ddim drwy lyfrgelloedd cyhoeddus.

Mae llawer o deitlau Darllen yn Well ar gael i’w benthyg fel e-lyfrau a llyfrau llafar. Ewch i wefan eich llyfrgell leol i gael gwybod sut i ymuno â’r llyfrgell a chael gafael ar lyfrau’n electronig.

View Rhestrau llyfrau Darllen yn Well

Adnoddau sy’n codi calon: i’r GIG, gan y GIG

Mae Health Education England a’r Reading Agency wedi creu casgliad o lyfrau sy’n codi calon drwy gyllido torfol ynghyd â rhestr ategol o adnoddau digidol, a’r cyfan wedi’i argymell gan staff y GIG, i staff y GIG.

Mae’r casgliad o ddeg llyfr wedi’i argymell drwy arolwg a ddosbarthwyd gan y GIG a detholwyd y rhestr derfynol gan banel o staff y GIG.

Mae’r casgliad llyfrau’n cynnwys deunydd ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth ac mae casgliad ategol o adnoddau digidol sy’n codi calon, gan gynnwys cerddi, gwefannau, fideos ac apiau ar gael yma i’w cyrchu yn eich amser eich hun ar unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais symudol.

View Adnoddau sy’n codi calon: i’r GIG, gan y GIG

Llyfrau sy’n codi Ysbryd

Mae ‘Llyfrau sy’n codi Ysbryd’ Darllen yn Well yn gyfres hyrwyddo genedlaethol sy’n cynnwys teitlau sy’n codi calon, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth a deunydd ffeithiol. Mae’r holl lyfrau wedi’u hargymell gan ddarllenwyr a grwpiau darllen.

Mae llawer o’r llyfrau ar gael i’w benthyg am ddim o’ch llyfrgell leol. Mae teitlau dethol hefyd ar gael i’w benthyg fel e-lyfrau a llyfrau llafar.

Ewch i wefan eich llyfrgell leol i gael gwybod sut i ymuno â’r llyfrgell a chael gafael ar lyfrau’n electronig.

View Llyfrau sy’n codi Ysbryd

Your Health Collection

Health Education England and The Reading Agency have worked in partnership to bring together a new list entitled ‘Your Health Collection’, to support users of health and prison libraries to understand and manage their health.

Your Health Collection will launch on 6 July 2022 as part of Health Information Week.

The collection of 10 books and 30 digital resources were chosen by those working in healthcare, health information and knowledge and library specialists working in the NHS, in prisons, in public health and in Higher Education. The resources chosen are accessible, inclusive and reflect the diversity of society.

View Your Health Collection

Y llyfrau

Cymorth brys