Skip to content

Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi The Reading Agency i ddarparu Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru.

Y Reading Agency sydd wedi datblygu Darllen yn Well, mewn partneriaeth â Libraries Connected a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru. Caiff ei ddarparu trwy lyfrgelloedd cyhoeddus, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Arts Council England. Mae partneriaid iechyd blaenllaw wedi datblygu’r cynllun a’i gefnogi.

Mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru, mae’r cynlluniau canlynol ar gael yng Nghymru ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell, a’r rhan fwyaf o’r teitlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg:

Y llyfrau

Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant

Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn darparu darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth, straeon a chyngor gyda sicrwydd ansawdd. Mae llyfrau wedi cael eu dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a’u cynhyrchu ar y cyd gyda phlant a theuluoedd.

Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i’r arddegau

Mae Darllen yn Well i’r arddegau yn argymell adnoddau darllen a digidol i helpu pobl ifanc 13-18 oed ddeall eu teimladau yn well, delio â phrofiadau anodd a hybu hyder. Canolbwynt y rhestr yw cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn eu harddegau ar ôl pandemig. Lansiwyd Darllen yn Well i’r arddegau yn 2022 a dyma’r rhestr ddiweddaraf yn y cynllun.

Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl (i oedolion)

Mae Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.

Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia

Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda dementia, cefnogaeth i fyw’n well, cyngor i berthnasau a gofalwyr, yn ogystal â ffuglen, cofiannau a llyfrau ffotograffau a ddefnyddir mewn therapi hel atgofion. Fe’u cymeradwyir gan weithwyr iechyd proffesiynol a gellir dod o hyd iddynt yn y llyfrgell leol.

Addasiadau Cymraeg

Rydym yn cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod teitlau ar y rhestrau ar gael yn y Gymraeg. I gael gwybodaeth am y teitlau sydd ar gael, ewch i’n tudalennau sydd â’r rhestrau llyfrau plant, yr arddegau, iechyd meddwl a dementia.

Yn ogystal, mae’r taflenni i ddefnyddwyr wedi’u haddasu gyda chyfeiriadau at lyfrau Cymraeg ac wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg.

Gallwch bori yn ein deunyddiau Cymraeg a dwyieithog yn ein cronfa adnoddau.

Cymryd rhan

  • Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Darllen yn Well i weithwyr iechyd proffesiynol a llyfrgellwyr er mwyn cael y newyddion diweddaraf
  • Gall llyfrgelloedd sy’n darparu Darllen yn Well yng Nghymru lawrlwytho’r model cyflenwi
  • Cysylltwch gydag unrhyw gwestiynau am Darllen yn Well yng Nghymru

English

Urgent help