Love in Colour
Adnoddau sy’n codi calon: i’r GIG, gan y GIG
Mae Health Education England a’r Reading Agency wedi creu casgliad o lyfrau sy’n codi calon drwy gyllido torfol ynghyd â rhestr ategol o adnoddau digidol, a’r cyfan wedi’i argymell gan staff y GIG, i staff y GIG.
Mae’r casgliad o ddeg llyfr wedi’i argymell drwy arolwg a ddosbarthwyd gan y GIG a detholwyd y rhestr derfynol gan banel o staff y GIG.
Mae’r casgliad llyfrau’n cynnwys deunydd ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth ac mae casgliad ategol o adnoddau digidol sy’n codi calon, gan gynnwys cerddi, gwefannau, fideos ac apiau ar gael yma i’w cyrchu yn eich amser eich hun ar unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais symudol.