Skip to content

Fy mlwyddyn heb fwyta

Samuel Pollen

Dim ond gydag un person y mae Max, 14 oed, yn gallu siarad o ddifrif. Ei henw yw Ana – neu i roi ei henw llawn iddi, anorecsia, ei anhwylder bwyta. Mae Max yn ysgrifennu at Ana bob dydd. Mae hi’n bwydo ar ei ofnau ac yn ei annog i golli mwy a mwy o bwysau. Yng nghanol argyfwng teuluol, mae anhwylder bwyta Max yn dirywio’n gyflym. Mae Ana yn ei dynnu’n bellach ac yn bellach oddi wrth ei deulu a’i ffrindiau, nes ei fod yn teimlo’n hollol unig. All unrhyw un ei helpu i ddianc o’i chrafangau? Gan bwyso ar brofiadau personol yr awdur newydd Samuel Pollen, dyma stori fythgofiadwy a dyrchafol am frwydr un bachgen yn erbyn anorecsia.

·9781999863357

Rwyf wedi darllen hwn
Cymorth brys