Gorbryder oherwydd ein golwg
Y llyfr cyntaf i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n esbonio achosion ac effaith anhwylder dysmorffia’r corff (BDD: body dysmorphia disorder). Mae’n frith o hanesion a gwaith celf gan bobl ifanc sydd â BDD, ynghyd â safbwyntiau eu teuluoedd. Mae BDD yn anhwylder iechyd meddwl sy’n dy wanhau ac mae’r llyfr hwn yn rhoi cyngor ar driniaethau fel CBT a meddyginiaeth, ac yn dangos ble i gael help.