(Llyfr am) Iselder
Mae’r llyfr hwn yn un o gyfres addysgiadol a chefnogol sy’n archwilio’n fanwl rai materion iechyd meddwl cyffredin sy’n effeithio ar fywydau plant heddiw. Gan weithio i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â nhw, mae’r teitlau creadigol a ffeithiol hyn yn bwrw golwg ar iselder. Mae modd i ddarllenwyr ddysgu am achosion, symptomau a strategaethau ymdopi ymarferol gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, therapïau siarad a phryd i geisio cymorth proffesiynol.