Cwymp y Cysgodion
Magwyd Kai, Orla a Zak gyda’i gilydd, gan dreulio’u dyddiau ar ddarn o dir gwyllt ger eu cartrefi, cornel fach werdd mewn dinas fawr lwyd. Mae cerddoriaeth, chwerthin a chyfeillgarwch yn eu clymu gyda’i gilydd ac mae ganddyn nhw gynlluniau mawr ar gyfer eu dyfodol – nes i deulu Kai ddioddef colled enfawr.
Wrth geisio dygymod â’i alar ei hun, yn ogystal â’i wylio’n rhwygo ei deulu’n ddau, mae Kai yn cael ei ddenu gan griw newydd a mwy peryglus, nes bod ei freuddwydion ar gyfer y dyfodol yn atgof pell. Ar ôl iddo gael ei wahardd o’r ysgol a chilio oddi wrth ei anwyliaid, mae fel petai Kai ar lwybr newydd, ei ddyfodol yn hanes cyn iddo ddigwydd. Mae Orla, Zak ac Om, disgybl newydd, yn benderfynol o’i helpu a’i ddenu yn ôl i’w lwybr gwreiddiol.