Lleddfu gorbryder cymdeithasol
Mae gorbryder cymdeithasol yn ffurf ddifrifol ar orbryder ymysg pobl ifanc yn eu harddegau, ond yn cael ei anwybyddu yn rhy aml. Os nad yw’n cael ei drin, mae’n gallu arwain at risg sylweddol o ddatblygu iselder a hyd yn oed ddibyniaeth mewn oedolion. Yn Lleddfu gorbryder cymdeithasol, mae Bridget Flynn Walker yn cyflwyno rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) pum cam i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i fagu hyder a throi cefn ar fywyd lle mae sefyllfaoedd cymdeithasol yn codi arswyd.