Byd Frankie
Mae Frankie yn gwybod ei bod hi’n wahanol i bawb arall yn ei dosbarth: mae hi’n wahanol, ond dydy hi ddim yn deall pam yn union. Ai oherwydd y smotyn newydd ar ei thrwyn, neu’r ffaith ei bod hi’n fach am ei hoed? Neu ei bod hi’n gorfod mynd i’r ysbyty weithiau? Mae pawb arall yn meddwl ei bod hi’n od hefyd, ac maen nhw’n gwneud hwyl am ei phen yn yr ysgol. Gadawodd tad Frankie pan oedd hi’n fabi – efallai ei fod yntau’n wahanol hefyd? Fe fyddai hynny’n egluro pam ei bod hi o hyd yn teimlo fel creadur estron. Felly mae hi a’i ffrind gorau Sam yn cychwyn ar daith i ddod o hyd iddo.
Nofel ddarluniadol sy’n cynnig persbectif unigryw ar awtistiaeth, wedi’i hadrodd gyda hiwmor a didwylledd. A daw’r cyfan yn fyw diolch i’r gwaith celf glas ac oren trawiadol.
Reader Reviews
Anonymous
05 October 2023
I’m not a massive fan of graphic novels but found it an interesting book to start a discussion about autism.
Anonymous
29 January 2024
I chose this because I have autism too