Arhoswch fymryn eto
Mae tad Aman wedi mynd, ac mae hi’n teimlo’n unig ac ar goll. Er ei bod hi’n cael trafferth trafod hynny, mae’n ffaith, a dydy o ddim yn dod yn ôl. Pan mae dyn hyfryd o’r enw Gurnam yn symud i fyw ar ei stryd ac yn achub Aman rhag bwlis lleol, mae’n dod yn ffrindiau mawr gydag Aman, ac yn dod i deimlo fel aelod o’i theulu. Ond mae gan Gurnam ei dristwch ei hun. Tristwch llawer mwy nag y gall Aman ddeall, tristwch sy’n rhwygo’i fywyd yn ddarnau. Llyfr arbennig o addas ar gyfer rhai sy’n cael anhawster darllen, darllenwyr amharod neu ddarllenwyr dyslecsig 13+ oed.