Skip to content

Darllen yn Well ar gyfer yr Arddegau

Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn awgrymu llyfrau ac adnoddau digidol wedi’u hargymell i’ch helpu i ddeall eich teimladau, ac i hybu eich hyder. Mae pobl ifanc yn eu harddegau ac arbenigwyr iechyd a lles wedi dewis y llyfrau i’ch helpu i reoli eich emosiynau ac ymdopi ar adegau anodd.

Mae’r rhestr lyfrau yn benodol i bobl ifanc yn eu harddegau (13–18) ac mae’n cynnwys amrywiaeth o lefelau darllen a fformatau i gefnogi darllenwyr llai hyderus ac ennyn diddordeb.

Chwiliwch yn eich llyfrgell leol am lyfrau Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau– gallwch eu benthyg am ddim.

Mae nifer o’r teitlau hefyd ar gael i’w benthyg fel e-lyfrau a llyfrau llafar. I gael gwybod sut i ymuno â‘r llyfrgell a chael mynediad at lyfrau, e-lyfrau a llyfrau llafar, ewch i: Ymaelodi â’ch llyfrgell – Libraries Wales (llyfrgelloedd.cymru)

Mae ein canllaw i’r casgliad llyfrau a’r daflen ddigidol ar gael i’w lawrlwytho am ddim. (There is also an English language user leaflet)

For more information on Reading Well for teens please see our FAQ document.

Read our news statement here.


Meddyliau Iach


Rheoli Teimladau


Gorbryder ac Iselder


Niwroamrywiaeth


Delwedd Corff


Deall Profedigaeth a Cholled


Dysgu am Fywyd


Hybu eich Hyder


Goroesi Ar-lein


Rhywioldeb, Rhywedd ac Iechyd Meddwl

Cymorth brys