Skip to content

Beth Sy'n Digwydd Yn Fy Mhen?

Molly Potter, Sarah Jennings

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod meddyliau iach yn bwysig iawn ond sut ydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n gofalu am ein hiechyd meddwl o oed ifanc? Mae Beth sy’n digwydd yn fy mhen? yn llyfr i blant sy’n archwilio ffyrdd ymarferol y gallwn gadw ein meddwl yn ogystal â’n corff mewn cyflwr da. Trwy siarad am hunan-ddelwedd gadarnhaol, deallusrwydd emosiynol, perthnasoedd ac ymwybyddiaeth ofalgar, bydd y llyfr hwn yn helpu plant i ddatblygu arferion iach a strategaethau ymdopi da o’r dechrau. Wedi’i gyflwyno i blant mewn ffordd gynnes, gyfeillgar ond di-lol, bydd yn helpu i osod sylfeini cadarn ar gyfer lles pob plentyn yn awr ac i’r dyfodol.

9781913733780

Rwyf wedi darllen hwn
Cymorth brys