Skip to content

Pryder Glain

Tom Percival, Testun

Mae Glain wrth ei bodd yn bod yn Glain. Nes iddi, un diwrnod, ddarganfod pryder. Ar y dechrau, nid yw’n bryder mawr, ac mae hynny’n iawn, ond yna mae’n dechrau tyfu. Mae’n mynd yn fwy ac yn fwy bob dydd ac mae’n gwneud Glain yn drist. Sut all Glain gael gwared arno a theimlo fel hi ei hun unwaith eto? Pan mae Glain yn gwneud ffrind – sydd hefyd â phryder – ac yn siarad am beth sy’n ei phoeni, mae popeth yn ffrwydro mewn lliw ac mae’r byd yn mynd yn ôl i normal. Cyn bo hir, mae Glain yn sylweddoli bod pawb yn poeni, ac nad oes angen teimlo cywilydd o hynny. Mae hon yn stori graff a theimladwy am bryder a sut mae rhannu problem yn gallu ysgafnhau’r baich.

9781849675406

Rwyf wedi darllen hwn
Cymorth brys