Yna Digwyddodd Rhywbeth - Stori am Ddementia Cyffredin
Ofn a gorbryder. Cariad a thosturi. Tristwch a llawenydd. Gwadu ac anghrediniaeth. Blinder a diffyg amynedd. Hwyl a chwerthin. Dyma emosiynau’r rhai sydd â dementia, ynghyd ag emosiynau’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw. Pan fydd dementia’n taro deulu, dyma gychwyn ar daith emosiynol. Pwy a ŵyr i ble?