Skip to content

Colli Clive i Ddementia Cynnar

Helen Beaumont, Elgan Philip Davies

Cafodd Clive Beaumont ddiagnosis o ddementia cynnar pan oedd yn 45 oed, a’i blant ddim ond yn dair ac yn bedair oed. Roedd Clive yn cael mwy a mwy o drafferth i wneud ei waith yn iawn ac roedd wedi colli’i swydd yn y Fyddin y flwyddyn gynt. Mae ei wraig, Helen, yn sôn am sut y llwyddodd hi a gweddill y teulu i fynd drwy’r chwe blynedd nesaf, nes i Clive farw: yr her o addasu wrth i’w gyflwr waethygu; gorfod delio â goblygiadau cyfreithiol y salwch; gwneud cais am fudd-daliadau; chwilio am gartrefi nyrsio; a delio â’i chyfrifoldebau fel gwraig, mam a gweithiwr. Mae hi hefyd yn disgrifio’i thristwch a’i hofn wrth i’w gŵr, a oedd yn un mor addfwyn, ddod yn fwy a mwy anwadal a threisgar wrth i’w iechyd ddirywio.

Mae’r stori hon yn helpu pobl iau â dementia, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac yn eu hannog.

9781912654895

Rwyf wedi darllen hwn
Cymorth brys