Cwestiynau a Theimladau Ynghylch Pryderon
Llyfr ysgafn, di-lol, ar gyfer mynd i’r afael â’r pethau a all wneud i blant boeni neu deimlo’n bryderus. Mae’r arbenigwr ymwybyddiaeth ofalgar Paul Christelis yn defnyddio ei arbenigedd i archwilio sefyllfaoedd bob dydd ar ffurf llyfr lluniau, gan helpu plant i adnabod arwyddion o bryder a rhoi tawelwch meddwl ac awgrymiadau syml iddynt ar sut i ymdopi ag unrhyw bryderon.