Llyfr Trist Michael Rosen
Mae Llyfr trist Michael Rosen yn croniclo galar Michael ar farwolaeth ei fab Eddie o lid yr ymennydd yn 19 oed. Yn gyfuniad teimladwy o ddiffuantrwydd a symlrwydd, mae’n cydnabod nad yw tristwch bob amser yn rhywbeth y gellir ei osgoi nac yn rhywbeth rhesymol ac mae’n perffeithio’r grefft o wneud teimladau cymhleth yn glir.