Bod yn Bositif am Ddementia
Addasiad Cymraeg gan Iwan Huws o Dementia Positive gan John Killick. Yn y llyfr twymgalon ac ysgogol hwn, mae John Killick yn herio’r tybiaethau am y cyflwr ac yn dangos sut y gallwn helpu a gwella bywyd personau â dementia.
Mae dementia yn gyflwr dirgel. Mae’n dychryn llawer ohonom. Teimlwn yn ddiymadferth pan ddown wyneb yn wyneb ag ef. Nid oes raid i bethau fod fel hyn.
Yn y llyfr twymgalon ac ysgogol hwn, mae John Killick yn herio’r tybiaethau hyn. Mae’n dangos sut y gallwn helpu a gwella bywyd y personau â dementia. Llawlyfr hanfodol i unrhyw un sy’n byw gyda diagnosis o ddementia, yn ogystal ag i bobl broffesiynol ynghlwm â gofal dementia a pherthnasau sy’n chwilio am wybodaeth am y cyflwr.